Gweithdrefn Gwyno
Mae'r ysgol yn dilyn y drefn gwyno enghreifftiol a awgrymwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n weithdrefn tri cham:
Cam A – Yn bennaf, mae hyn yn cynnwys trafodaeth anffurfiol gyda'r athro neu'r person dynodedig. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddem yn disgwyl y byddai'r mater sydd yn peri pryder yn cael ei ddatrys yn anffurfiol yng Ngham A.
Cam B - Os ydych yn teimlo nad yw'r mater a achosodd bryder i chi ar y dechrau wedi'i ddatrys, dylech gyflwyno cwyn ysgrifenedig i'r Pennaeth. Bydd y Pennaeth yn ymchwilio i'ch cwyn ac yn cwrdd â chi.
Cam C - cwyn ffurfiol i Gadeirydd y Llywodraethwyr. Os na chaiff y gŵyn ei datrys yng Ngham B, dylai’r pwyllgor a sefydlwyd gan y corff llywodraethu i ymdrin â chwynion ystyried y gŵyn.
Mae copi o'r Weithdrefn Gwyno llawn ar gael ar gais wrth y Pennaeth